Ym mis Medi 2022 fe wnaethom gyhoeddi adroddiad o’r enw ‘Ariannu Dyfodol Cymru: Buddsoddi mewn prifysgolion i sbarduno twf economaidd’.
Darllenwch y crynodeb isod neu lawrlwythwch yr adroddiad.
Fe wnaeth arolwg British Heart Foundation (BHF) Cymru 2022 ganfod bod 82% o bobl Cymru yn credu ei bod hi’n bwysig i Gymru wneud ymchwil meddygol.
Ond, er mwyn sicrhau buddsoddiad allanol ac ennill ceisiadau ariannol cystadleuol, mae angen isadeiledd ar brifysgolion Cymru.
Yllid sy’n gysylltiedig ag ansawdd (QR) gan Lywodraeth Cymru
Er mwyn sefydlu isadeiledd mewn prifysgolion, mae Llywodraethau’n darparu cyllid sy’n gysylltiedig ag ansawdd (QR) yn seiliedig ar ansawdd yr ymchwil a wneir gan brifysgolion.
Yn anffodus, mae gwariant Llywodraeth Cymru ar gyllid QR yn rhy isel. Ac mae hyn yn lleihau’n fawr allu Cymru i gystadlu am gyllid allanol gan elusennau a ffynonellau eraill.
Nid yw Cymru’n cyflawni ei photensial mewn ymchwil a datblygu (Y&D)
Mae Cymru’n cynrychioli tua 5% o boblogaeth y DU. Ond dim ond 2% o wariant ymchwil a datblygu’r DU sy’n cael ei wario yng Nghymru.
Mae hyn yn cynnwys yr holl arian sy’n cael ei wario ar ymchwil a datblygu yng Nghymru gan elusennau, diwydiant, Llywodraeth Cymru, a’r gwasanaeth iechyd - gwariant sy’n llai na hanner yr hyn y dylid ei ddisgwyl yn sgil maint poblogaeth Cymru.
Buddsoddiad isel Llywodraeth Cymru yn cyfyngu ar lwyddiant economaidd
Yn 2018, rhoddodd yr Adolygiad Reid a gomisiynwyd gan Lywodraeth Cymru y flaenoriaeth uchaf ar rôl cyllid QR o ran annog ymchwil ac arloesedd yng Nghymru.
Athro Graeme Reid dangosodd bod cyllid QR isel yn lleihau gallu Cymru I ennill cyllid allanol.
Mae Cyngor Cyllido Addysg Uwch Cymru (CCAUC) cyllideb QR ar gyfer 2022/23 yw £81.7 miliwn. Mae Ymchwil Lloegr wedi cyhoeddi £1.789 biliwn ar gyfer cyllid QR ar gyfer 2022/23.
Pe bai prifysgolion Cymru’n cael cefnogaeth i gystadlu gyda Lloegr, yna dylai cyllid pro rata QR yng Nghymru fod tua £100 miliwn.
Mae’r diffyg hwn yn golygu nad oes gan brifysgolion Cymru’r seilwaith hanfodol sydd ei angen arnynt, ac nid ydynt yn gallu cystadlu â phrifysgolion eraill ledled y DU am gyllid.
Argymhelliad
Dylai Llywodraeth Cymru ymrwymo i godi cyllid QR £18 miliwn erbyn diwedd y Chweched Senedd.
Darllenwch y Hadrioddiad 'Cyllido Dyfodol Cymru (360kb)
English