Skip to main content

Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol

Mae'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol yn gyrru gwelliannau yn y maes ymchwil feddygol yng Nghymru. Darllenwch ein hadroddiad ar eu canfyddiadau a'u hymholiadau diweddar.

Beth yw'r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol?

Mae’r Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol yn gweithredu yn y Senedd ers mis Tachwedd 2018. Bu Angela Burns AS yn gadeirydd arno ac mae bellach yn cael ei gadeirio gan Russel George AS. Mae’r Grŵp yn dwyn ynghyd Aelodau’r Senedd, y trydydd sector, diwydiant, cleifion, a chlinigwyr er mwyn ysgogi gwelliant ym maes ymchwil feddygol yng Nghymru. Mae BHF Cymru yn gweithredu fel Ysgrifenyddiaeth y Grŵp.

English

Adolygiadau blaenorol

Adolygiad Reid 2018

Ym mis Ionawr 2017, comisiynwyd yr Athro Graeme Reid gan Lywodraeth Cymru i ymchwilio i waith ymchwil ac arloesi a ariennir gan y Llywodraeth yng Nghymru. Yn dilyn adolygiad yr Athro Reid i waith ymchwil yng Nghymru, cynhaliodd Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol ymchwiliad.

Gwaetha'r modd, roedd canfyddiadau'r Grŵp yn siomedig.  Bu pum mlynedd ers Adolygiad Reid ond, ac eithrio Swyddfa Ymchwil ac Arloesi Cymru yn Llundain, ychydig iawn a wnaed i weithredu argymhellion Reid.

Darllenwch ein Hadrioddiad

English

 

Adroddiad diweddaraf ar sut mae ymchwil feddygol o fudd i bobl Cymru

Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol, sy'n cael ei gadeirio gan Russel George AS erbyn hyn, adroddiad ar sut mae ymchwil feddygol o fudd i bobl Cymru, yn enwedig economi Cymru.

Roedd yr adroddiad yn argymell bod cleifion yn cael mynediad teg i dreialon clinigol, bod ymchwil yn cael ei blaenoriaethu fel sbardun economaidd allweddol trwy gefnogi prifysgolion a chymell cydweithredu, a bod ymchwil yn rhan hanfodol o drefniadau cynllunio gweithlu.

Gan mai ni yw’r mudiad annibynnol sy’n gwneud fwyaf i ariannu ymchwil feddygol i glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yng Nghymru, bydd y British Heart Foundation (BHF) yn dal i godi llais dros bwysigrwydd ymchwil feddygol i Gymru.

Darllenwch ein Hadrioddiad

English