Cymru: Adroddiad am Atal Clefydau Anhrosglwyddadwy
Mae Clefydau Anhrosglwyddadwy (NCDs) yn achosi llawer o salwch a marwolaethau yng Nghymru. Mae clefydau anhrosglwyddadwy (fel canser, clefyd y galon, strôc, diabetes a chlefydau’r ysgyfaint a’r iau) yn gyfrifol am o leiaf 20,000 o farwolaethau yng Nghymru bob blwyddyn – dros hanner yr holl farwolaethau. Ond wrth i waith ymchwil symud yn ei flaen, daethom i ddeall bod modd atal llawer o’r salwch a’r marwolaethau hyn.
Bu BHF Cymru’n cydweithio â phrif elusennau eraill Cymru ym maes iechyd i gyflwyno ein cyd-flaenoriaethau fel y gall Llywodraeth nesaf Cymru wella iechyd y genedl a gwarchod ein gwasanaeth iechyd rhag baich clefydau anhrosglwyddadwy.
Mae angen i Lywodraeth nesaf Cymru ymroi i rymuso pobl i wneud dewisiadau iachach trwy ymyriadau i ostwng lefelau smygu; lefelau gorbwysedd a gordewdra; a lefelau yfed alcohol. Gwyddom fod y rhain i gyd yn effeithio’n waeth ar y bobl dlotaf yn ein cymdeithas.
Yn yr adroddiad, galwn ar y pleidiau gwleidyddol i ymrwymo i weithredu ynghylch y ffyrdd y caiff tybaco, alcohol a bwydydd a diodydd nad ydynt yn rhai iachus eu hyrwyddo a’u marchnata, ac i sicrhau bod gwasanaethau cefnogi a thrin ar gael yn ehangach er mwyn lleihau effaith y nwyddau hyn ac atal miloedd o farwolaethau bob blwyddyn.
Darllenwch ein Hadroddiad am Atal NCDs
Darllenwch ein Briff ar Atal NCDs
Mae’r adroddiad am atal clefydau anhrosglwyddadwy yn cynnwys galwadau polisi gyda’r nod o leihau’r defnydd o dybaco, alcohol a bwydydd a diodydd nad ydynt yn iachus.
Mae BHF Cymru yn ymroi i gydweithio’n agos â’i holl bartneriaid er mwyn hybu iechyd pobl ledled Cymru.