Skip to main content

Mae ar Galonnau Cymru Angen Mwy

Mae BHF Cymru yn galw ar y pleidiau gwleidyddol i ymrwymo i sicrhau gostyngiad o 25% mewn marwolaethau cynamserol o glefyd cardiofasgwlaidd erbyn 2035.

Allwn ni ddim caniatáu i Gymru gael ei gadael ar ôl o ran iechyd y galon

Mae mwy na 400,000 o bobl yng Nghymru yn byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd ar hyn o bryd, gan achosi tua 25 o farwolaethau bob dydd. Dros y 60 mlynedd diwethaf, bu cynnydd enfawr yn y gwaith o daclo clefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru. Ond, collwyd y momentwm ers canol y 2010au ac mae rhaid i ni gymryd camau brys.

Mae cyfradd marwolaethau pobl o dan 75 oed o glefyd cardiofasgwlaidd yn dal yn uwch nag yr oedd cyn y pandemig ac, yn 2024, roedd 17% yn uwch yng Nghymru nag yn Lloegr. Ar ben hynny, yng Nghymru, dim ond 1 mewn 20 o bobl sy'n goroesi ar ôl ataliad y galon yn rhywle heblaw ysbyty (OHCA), o'i gymharu ag 1 mewn 10 yn Lloegr a'r Alban.

Mae BHF Cymru yn galw ar bob plaid wleidyddol i gynnwys ymrwymiad clir yn eu maniffesto i sicrhau gostyngiad o 25% mewn marwolaethau cynamserol o glefyd cardiofasgwlaid yng Nghymru dros y degawd nesaf - yn unol â tharged Llywodraeth y DU ac uchelgais BHF. Mae BHF yn amcangyfrif y gellid achub tuag 800 o fywydau yn 2035 yn unig.

Galwad i weithredu i Lywodraeth nesaf Cymru

Yn ogystal â bod yn hanfodol ar gyfer iechyd Cymru, dyna yw dymuniad y cyhoedd hefyd. Ym mis Tachwedd 2025, comisiynwyd arolwg YouGov gan BHF Cymru a chanfu mai dim ond 19% o'r cyhoedd yng Nghymru sy'n credu bod Llywodraeth bresennol Cymru yn gwneud digon i fynd i'r afael â CVD a bod 86% o'r farn bod rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru anelu at y gostyngiad o 25%.

Sut gall Llywodraeth nesaf Cymru gymryd gamau gweithredu

Mae angen ar Lywdoraeth nesaf Cymru flaenoriaethu dri maes.

  • Red

    Atal

    Rhwystro clefyd cardiofasgwlaidd cyn iddo ddechrau.

  • Red

    Gofal

    Sicrhau bod gofal amserol, cyfartal a pherson-ganolog ar gael i bawb sydd â chlefyd cardiofasgwlaidd.

  • Red

    Dealltwriaeth

    Cryfhau data cardiofasgwlaidd er mwyn cael gwell canlyniadau i gleifion.

Manylion llawn yr ymgyrch

Mae BHF Cymru wedi paratoi cynllun clir – ein 'Presgripsiwn ar gyfer Calonnau Cymru'. Yn union fel presgripsiwn meddygol, mae'n nodi'r cynllun a argymhellir ar gyfer trin iechyd y galon yng Nghymru.

Darllenwch y presgripsiwn