Skip to main content

Faint o farwolaethau y gellid eu hatal â gostyngiad o 25% mewn marwolaethau cynamserol o CVD?

Rydym wedi datblygu dangosfwrdd i ddangos faint o farwolaethau y gellid eu hatal yn 2035 pe bai gostyngiad o 25% yng nghyfraddau marwolaethau 2024 o glefydau cardiofasgwlaidd (CVD).

Mae'r ymgyrch Mae ar Galonnau Cymru Angen Mwy yn galw ar bob plaid wleidyddol i ymrwymo i sicrhau gostyngiad o 25% yng nghyfraddau marwolaethau cynamserol o CVD erbyn 2035.

Er mwyn amlygu'r effaith y gallai hyn ei chael yng Nghymru, mae'r dangosfwrdd hwn yn dangos nifer y marwolaethau o CVD a gâi eu hatal yn 2035 ym mhob awdurdod lleol. Mae hefyd yn rhoi amcangyfrif o nifer y marwolaethau o CVD y gallem eu gweld yn 2035, os bydd y tueddiadau presennol mewn marwolaethau yn parhau. Gallwch weld data'r dangosfwrdd ar ffurf tabl hefyd. Gallwch weld data'r dangosfwrdd ar ffurf tabl hefyd.

Mae'r amcanestyniadau hyn yn dangos y gellid atal cannoedd o farwolaethau yn 2035, trwy weithredu yn awr. Rhaid i Lywodraeth nesaf Cymru flaenoriaethu gwaith atal, gofal a dealltwriaeth, fel yr amlygir yn 'Presgripsiwn ar gyfer Calonnau Cymru', er mwyn mynd i'r afael â chlefydau cardiofasgwlaidd, lleihau'r pwysau ar GIG Cymru a chreu Cymru iachach ar gyfer cenedlaethau'r dyfodol.

Dangosfwrdd yn dangos faint o farwolaethau y gellid eu hatal yn eich ardal chi