Skip to main content

Ymgyrchu a dylanwadu yng Nghymru

Mae BHF Cymru'n cydweithio â chleifion, clinigwyr, partneriaid elusennol, a'r Senedd a Llywodraeth Cymru i gefnogi pobl y mae clefyd cardiofasgwlaidd yn effeithio arnynt.

A male conference speaker stands at a podium and presents to an audience sat in front of him.

Peth o'r gwaith rydym yn ei wneud yng Nghymru

  • Pweru ymchwil ac arloesi cardiofasgwlaidd yng Nghymru: Mae BHF Cymru, ar y cyd ag Ymchwil Iechyd a Gofal Cymru, wedi cyhoeddi y rhoddir £3m i gefnogi ymchwil gardiofasgwlaidd yng Nghymru. Felly bydd ymchwilwyr yng Nghymru'n gallu ymchwilio i agweddau allweddol ar anghenion iechyd a gofal sydd heb eu diwallu mewn pobl sydd â chyflyrau fel arrhythmias (curiad calon afreolaidd), clefyd y galon a heneiddio fasgwlaidd. Dysgu mwy am y cytundeb pum mlynedd.

    Byddwn yn dal i gydweithio'n agos â'r Rhwydwaith Cenedlaethol Ymchwil Gardiofasgwlaidd i sicrhau bod ymchwil i glefyd cardiofasgwlaidd yn dal yn flaenoriaeth i Lywodraeth Cymru, gan ategu adroddiad a gomisiynwyd gan BHF ac a ganfu bod buddsoddi mewn ymchwil feddygol yn ganolog i iechyd y genedl ac economi Cymru. Darllen mwy am effaith economaidd ymchwil feddygol a ariennir gan elusennau yng Nghymru.
  • Cau'r bwlch rhwng y rhywiau o ran trawiad ar y galon: Yng Nghymru mae clefyd coronaidd y galon yn lladd dros ddwywaith cynifer o fenywod â chanser y fron, ond mae'n dal i gael ei gyfrif yn glefyd sy'n effeithio ar ddynion yn unig. Mae ein hadroddiad yn amlygu'r anghydraddoldebau sy'n wynebu menywod yng Nghymru ac yn cynnig nifer o argymhellion i'r Llywodraeth. Darllenwch fwy am adroddiad 'Bwlch Bioleg'. 
  • Y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol: Fel rhan o'r Grŵp Trawsbleidiol, rydym yn gweithio i hybu gwelliant yn sefyllfa ymchwil feddygol yng Nghymru. Ym mis Tachwedd 2023, cyhoeddodd y grŵp adroddiad yn dweud sut mae ymchwil feddygol o fudd i bobl Cymru, ac yn enwedig i economi Cymru. Dysgu mwy am y Grŵp Trawsbleidiol ar Ymchwil Feddygol
  • Helpu Cymru i wneud y dewisiadau iachaf: Fel cyd-gadeirydd Cynghrair Gordewdra Cymru, rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i flaenoriaethu iechyd a gostwng lefelau smygu, gordewdra ac yfed alcohol yng Nghymru. Bu i ni lwyddo i ddylanwadu ar Reoliadau Bwyd (Hyrwyddo a Chyflwyno) (Cymru) 2025, sy'n gam ymlaen tuag at hwyluso gwneud dewisiadau iachach. Darllenwch ein hadroddiad ar atal Clefydau Anhrosglwyddadwy.
  • Annog rhagor i ddilyn rhaglen adsefydlu cardiaidd yng Nghymru: Rhoddodd BHF Cymru ar y cyd â Bwrdd Iechyd Prifysgol Aneurin Bevan bosteri gwybodaeth mewn wardiau cardioleg yn Ysbyty’r Faenor, Cwmbrân i hyrwyddo manteision adsefydlu cardiaidd. Cynyddodd y ganran oedd yn dilyn rhaglen adsefydlu cardiaidd o 47% yn 2023, i 73% yn 2024, sef bron i 200 yn rhagor o gleifion. Oherwydd llwyddiant y cynllun peilot hwn, mae’r prosiect yn cael ei gyflwyno ledled Cymru a Gogledd Iwerddon.
  • Gwella gwasanaethau cardioleg yng Nghymru: Sefydlwyd Panel Cyhoeddus Cardiaidd Cymru gan BHF Cymru yn 2023. Grŵp o bobl sydd â phrofiad o fyw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd yng Nghymru yw hwn. Cyn ffurfio'r panel, roedd gwasanaethau cardioleg yng Nghymru yn cael anhawster i ymgysylltu â chleifion a'r cyhoedd, ond yn awr, mae gan y grŵp ran allweddol yn y gwaith o wella gwasanaethau ledled y wlad. 

Ymgyrchoedd i godi calon

  • Mwy o hyfforddiant CPR mewn ysgolion: Cynhaliodd BHF Cymru ymgyrch lwyddiannus i gynnwys CPR yng nghwricwlwm Cymru er mwyn helpu i sicrhau bod rhagor o bobl yn y dyfodol yn goroesi ar ôl ataliad ar y galon. 
  • Cefnogi gwelliannau yng ngofal y GIG: Buom yn cydweithio â chlinigwyr, cleifion a'r cyhoedd i greu cynllun newydd Clefyd y Galon a Chylchrediad y Gwaed i Gymru. Mae Llywodraeth Cymru wedi cynnwys llawer o'n hargymhellion yn eu Datganiad Ansawdd ar gyfer Clefyd y Galon.
  • Ymgyrchu dros Gymru lanach a gwyrddach: A ninnau'n aelodau o Awyr Iach Cymru, rydym wedi cydweithio ag elusennau eraill i gefnogi Cynllun Aer Glân i Gymru: Awyr Iach, Cymru Iach. Rydym wedi cefnogi Deddf yr Amgylchedd (Ansawdd Aer a Seinweddau) (Cymru) 2024 hefyd ac rydym yn dal i weithio i sicrhau bod y rheoliadau'n cael eu gorfodi. Dysgu mwy am Awyr Iach Cymru.