Skip to main content

Gwaith Ymchwil yng Nghymru

Diolch i haelioni ac ymroddiad eithriadol ein cefnogwyr, rydym wedi bod yn gyfrifol am rai o’r datblygiadau mwyaf arloesol ym maes ymchwil feddygol dros y 60 mlynedd diwethaf. 

Uchafbwyntiau’r ymchwil

Rydym yn buddsoddi bron £4m mewn gwaith ymchwil mewn prifysgolion ledled Cymru er mwyn achub bywydau. Ymhlith ein prosiectau ymchwil cyfredol mae:

Beth mae smotiau gloyw mewns sganiau yn ystod beichiogrwydd yn ei ddweud wrthym am galonnau plant? Lisa Hurt (ymchwilydd arweiniol) ym Mhrifysgol Caerdydd

Bob dydd yn y Deyrnas Unedig, caiff 12 o fabanod eu diagnosio â nam ar y galon sy’n digwydd wrth i’r babi ddatblygu yn y groth. Mae merched beichiog yn cael sgan uwchsain pan fyddant tuag 20 wythnos i mewn i’w beichiogrwydd a dyna pryd y caiff bron hanner yr holl ddiffygion difrifol ar y galon eu canfod. Fodd bynnag, dydi meddygon ddim yn siŵr a yw rhai o’r pethau a welir ar y sgan hon yn golygu bod problem â chalon y babi. Er enghraifft, weithiau gwelir smotiau gloyw (o’r enw ffocysau ecogenig) ar galon y babi ond wyddom ni ddim eto a yw’r rhain yn arwyddocaol.

Yn awr, bydd Dr Lisa Hurt a’i thîm yn edrych yn ôl ar gofnodion meddygol pum-mlynedd grŵp o blant oedd â smotiau gloyw ar eu sganiau, a phlant nad oedd â’r smotiau gloyw. Byddant yn canfod a yw plant oedd â’r smotiau hyn wedi cael mwy o drafferthion â'u calon. Byddant yn ystyried hefyd a oedd cael llawer o smotiau neu smotiau ar rannau neilltuol o’r galon yn gwneud gwahaniaeth i iechyd y galon. Bydd canlyniadau’r astudiaeth hon yn rhoi gwell syniad o lawer i feddygon sut i ofalu am famau a'u babanod os gwelir smotiau gloyw ar y galon yn y sgan 20 wythnos. Os gwelir nad yw'r smotiau gloyw yn gysylltiedig â phroblemau â'r galon yn nes ymlaen, bydd yn help i roi tawelwch meddwl i deuluoedd.

Beth sy'n rheoli’r ffordd y mae celloedd cyhyr y galon yn cyfangu? 
Nia Lowri Thomas (ymchwilydd arweiniol) ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Dr Nia Lowri Thomas a'i thîm ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio'r prosesau sy'n rheoli'r ffordd y mae celloedd cyhyr y galon yn cyfangu bob tro y mae’r galon yn curo, a'r hyn sy'n mynd o'i le pan fydd rythm y galon yn annormal. Er mwyn i gelloedd cyhyr y galon gyfangu, rhaid i galsiwm gael ei ryddhau’n gyflym o storfa fewnol yn y gell.  Caiff y calsiwm ei ryddhau trwy lawer o sianeli protein o'r enw derbynyddion RyR2, ac mae gwyddonwyr o'r farn bod y sianeli hyn yn cysylltu â'i gilydd mewn grŵp a’u bod yn agor ac yn cau gyda’i gilydd.

Credant fod hyn yn galluogi’r galon i gyfangu’n sydyn ac yn drefnus bob tro, ac os nad yw hynny'n digwydd gall wneud i’r galon guro â rythm annormal. Ond ni wyddom a yw'r sianeli’n cysylltu â’i gilydd ac yn agor a chau gyda’i gilydd, ac os ydynt, ni wyddom sut y mae hynny’n digwydd. Ni allwn eu hastudio'n fanwl ar hyn o bryd chwaith. Mae Dr Thomas wedi datblygu techneg ddelweddu arbrofol newydd i astudio'r sianeli hyn yn uniongyrchol. Yn y prosiect hwn, bydd yn ei defnyddio i weld a yw’r sianeli RyR2 wrth ymyl ei gilydd ac a yw sianeli sydd wedi'u stwffio’n agos at ei gilydd yn agor ac yn cau gyda’i gilydd. Yna bydd Dr Thomas yn cynnal profion i weld beth a allai wneud i’r sianeli agor a chau gyda’i gilydd a pha rai o’r ffactorau hyn sy'n bwysig wrth achosi arrhythmia. Bydd y gwaith ymchwil hwn yn bwrw goleuni newydd ar y ffordd y mae sianeli RyR2 yn agor ac yn cau, ac a oes cysylltiad rhyngddynt a rhythmau annormal y galon.

Trawiad ar y galon a strôc  
Dipak Ramji  (ymchwilydd arweiniol) ym Mhrifysgol Caerdydd

Mae Dr Dipak Ramji a’i gydweithwyr ym Mhrifysgol Caerdydd yn astudio atherosglerosis, sef cyflwr lle mae stwff brasterog yn crynhoi mewn rhydwelïau gan eu culhau, gan arwain at broblemau difrifol fel trawiad ar y galon a strôc. Er bod gwell triniaethau yn golygu bod llai o bobl yn marw o glefyd y galon, mae perygl o hyd i bobl gael yr afiechyd.  Mae angen i ni ddatblygu cyffuriau newydd ar frys i atal neu drin atherosglerosis.  Mae asid dihomo-gama-linolenig (DGLA) yn asid brasterog aml-annirlawn y ceir mymryn ohono mewn cynhyrchion anifeiliaid.  Mae Dr Ramji wedi darganfod ei fod yn atal nifer o gamau biocemegol allweddol sy'n gysylltiedig ag atherosglerosis mewn celloedd a dyfir mewn labordy.

Yn y prosiect hwn, bydd yn ceisio canfod a yw DGLA yn amddiffyn rhag afiechyd trwy atal nifer o brosesau llidiol a phrosesau eraill sy'n digwydd mewn atherosglerosis ac, os ydyw, sut y gwneir hynny.  Bydd y gwaith ymchwil hwn yn datgelu sut y mae DGLA yn amddiffyn rhag atherosglerosis, a yw'n gallu atal atherosglerosis rhag datblygu mewn llygod sydd â'r afiechyd, a bydd yn astudio sut yn union y mae'n gweithio.  Bydd Dr Ramji yn ceisio darganfod a fydd yr asid brasterog hwn nid yn unig yn atal atherosglerosis rhag datblygu a gwaethygu, ond a allai hefyd sefydlogi'r stwff brasterog mewn rhydwelïau afiach a chael gwared ohono.

Paratoi triniaethau pwrpasol ar gyfer rythmau annormal peryglus 
Christopher George (ymchwilydd arweiniol) ym Mhrifysgol Abertawe.

Mae’r Athro Chris George yn astudio rhythmau annormal y galon, neu arrythmia, sy'n gallu lladd. Er ein bod yn deall rhai o’r prosesau sy’n achosi arrhythmia, mae triniaethau presennol yn amrywio yn eu heffeithlonrwydd, ac mae achosion rhai rhythmau annormal yn y galon yn dal yn ddirgelwch. Mae’r tîm yn canolbwyntio ar broteinau o’r enw derbynyddion ryanodin, neu RyR2. Mae’r proteinau hyn yn sianeli sy’n galluogi celloedd yn y galon i drafod a rhyddhau calsiwm. Mae symudiad calsiwm oddi mewn i gelloedd y galon yn galluogi’r galon i guro’n iawn.

Gallai namau mewn RyR2 chwarae rhan bwysig yn achosi arrhythmia. Mae angen i ni ddeall y broses hon fel y gallwn atal prosesau peryglus sy'n tarfu ar rhythm y galon rhag datblygu. Mae’r Athro George yn defnyddio’i offer newydd ei hunan, sy’n seiliedig ar gelloedd, i ymchwilio i weld sut y mae newidiadau i’r protein RyR2 yn arwain at annormaleddau sy’n sylfaen ar gyfer arhythmia difrifol sy’n dechrau’n ifanc. Byddant yn defnyddio’r offer hyn i ganfod sut y mae cyffuriau a ddefnyddir gennym ar hyn o bryd i drin arhythmia, a chyffuriau newydd arbrofol, yn effeithio ar y sianeli hyn. Bydd y gwaith hwn yn ein helpu i ddeall sut y mae newidiadau mewn protein yn effeithio ar sianeli calsiwm, a gallai ddatgelu ffyrdd newydd o drin pobl sydd ag arrhythmia sy’n peryglu eu bywyd.

English >