Taclo Pwysedd Gwaed Uchel: Llofrudd Tawel Cymru
Mae tua 50% o'r achosion o drawiad ar y galon a strôc yng Nghymru yn gysylltiedig â phwysedd gwaed uchel. ond gan mai anaml y ceir symptomau, gelwir y cyflwr gan lawer yn llofrudd tawel. Cewch ddarllen mwy am y ffordd y mae pwysedd gwaed uchel yn effeithio ar iechyd y galon yng Nghymru, a'n hargymhellion ni ar gyfer newid.
Amcangyfrifir bod 750,000 o oedolion yng Nghymru yn byw gyda phwysedd gwaed uchel, a gall fod cynifer â 220,000 heb eu diagnosio. Gan amlaf nid oes gan bwysedd gwaed uchel symptomau ac felly nid yw llawer o bobl yn sylweddoli bod y cyflwr arnynt na pha mor ddifrifol y gallai'r canlyniadau fod os na chaiff ei reoli. Trwy newidiadau i'ch ffordd o fyw ac, os oes angen, feddyginiaeth ar bresgripsiwn, gellir rheoli pwysedd gwaed uchel a hyd yn oed ei wrthdroi.
Gwyliwch ein hanimeiddiad am bwysedd gwaed i ddysgu mwy am y cyflwr:

Yn ogystal â lleihau nifer yr achosion o drawiad ar y galon a strôc sy'n peryglu bywydau, gallai ymyriadau a dargedir i wella gwaith atal, diagnosio a rheoli pwysedd gwaed uchel yng Nghymru, ac sydd wedi'u hariannu'n ddigonol, leihau nifer y derbyniadau brys i ysbytai am resymau y gellir eu hosgoi ac arbed arian hanfodol i'r GIG.
Mae ein hadroddiad, 'Taclo Pwysedd Gwaed Uchel: Llofrudd Tawel Cymru', yn archwilio maint y broblem ac yn nodi pum prif her i reoli pwysedd gwaed uchel yng Nghymru:
- Diffyg ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a grymuso
- Pwysau ar y system iechyd
- Data cyfyngedig
- Anghydraddoldebau iechyd
- Cadw at feddyginiaethau
Yn ein hadroddiad, cyflwynwn fframwaith clir ar gyfer newid gyda phedwar maes blaenoriaeth y credwn ei bod yn rhaid i Lywodraeth Cymru ganolbwyntio arnynt er mwyn taclo pwysedd gwaed uchel yng Nghymru:
- Cynllun ar gyfer Cymru gyfan i atal clefyd cardiofasgwlaidd
- Gwella ymwybyddiaeth, dealltwriaeth a grymuso
- Trawsnewid systemau gofal
- Gwella trefniadau casglu data ac argaeledd data
Oddi mewn i'r meysydd hyn, rydym wedi pennu saith o argymhellion polisi y cewch ddarllen amdanynt yn fwy manwl yn ein hadroddiad.
Trwy Gynllun Atal Clefyd Cardiofasgwlaidd a gaiff ei gefnogi gan Lywodraeth Cymru, a'i ariannu'n llawn, gallwn sicrhau canlyniadau cadarnhaol, hirdymor, ar gyfer pobl yng Nghymru sydd mewn perygl o gael clefyd cardiofasgwlaidd.
Darllenwch ein Hadroddiad am Bwysedd Gwaed Uchel