Bwlch Bioleg: Menywod a Thrawiad ar y Galon
Bob blwyddyn, caiff 1,700 o fenywod eu derbyn i’r ysbyty yng Nghymru oherwydd trawiad ar y galon. Amcangyfrifwn fod o leiaf 100,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gyda chlefyd y galon. Y math mwyaf cyffredin o glefyd y galon yw clefyd coronaidd y galon ac mae rhyw 45,000 o fenywod yng Nghymru yn byw gyda’r cyflwr hwn. Cymru sydd â’r gyfradd uchaf ond un ym mhedair gwlad y Deyrnas Unedig o farwolaethau o glefyd coronaidd y galon ymhlith menywod gyda rhyw 1,300 o fenywod yn marw bob blwyddyn – ddwywaith gymaint ag sy’n marw o ganser y fron. Er hynny, mae llawer o bobl o dan yr argraff mai dim ond dynion sy’n cael clefydau’r galon. Mae’r dybiaeth honno’n anghywir ac mae’n arwain at farwolaeth llawer o fenywod.
Mae menywod yn wynebu anfanteision a gwahaniaethu diarwybod ar bob cam o'u taith gyda chlefyd y galon. Mae gwaith ymchwil a ariannwyd gan y BHF yn awgrymu y gellid bod wedi atal marwolaethau o leiaf 8,243 o fenywod yng Nghymru a Lloegr dros gyfnod o ddeng mlynedd trwy gynnig triniaeth gardiaidd deg. Mae menywod:
- o dan anfantais am na sylweddolir bod perygl iddynt gael trawiad ar y galon
- yn fwy tebygol o gael camddiagnosis neu o gymryd mwy o amser i gael diagnosis
- yn llai tebygol o gael y driniaeth orau
- yn llai tebygol o ddefnyddio gwasanaethau adsefydlu cardiaidd
Cafwyd ymrwymiad gan y llywodraethau i weithredu cynlluniau clinigol yn Lloegr a’r Alban i fynd i’r afael ag anghydraddoldebau iechyd y mae menywod yn eu hwynebu. Ni chafwyd y fath ymrwymiad gan Lywodraeth Cymru hyd yma.
Rydym yn galw ar Lywodraeth Cymru i ymrwymo i Ddatganiad Ansawdd ar Iechyd Menywod sy’n mynd i’r afael â’r anghydraddoldebau a ddaw i ran menywod â chlefyd y galon. Dylai’r datganiad ansawdd geisio gwella’r canyniadau i fenywod â chlefyd y galon trwy:
- Gynyddu ymwybyddiaeth y cyhoedd
- Sicrhau diagnosis amserol
- Triniaeth deg
- Cyfle teg i gymryd rhan mewn adsefydlu cardiaidd
Darllenwch ein Hadroddiad Bwlch Bioleg