Cadw Cymru’n curo
Mae dros 400,000 o bobl yng Nghymru'n byw gyda chlefyd cardiofasgwlaidd ar hyn o bryd. Ond gyda chefnogaeth y cyhoedd, mae'r datblygiadau nesaf o ran diagnosio, trin ac atal clefyd cardiofasgwlaidd o fewn cyrraedd.
Dyddiaduron y Meinciau Coch
I nodi 65 mlynedd ers sefydlu'r BHF, rydym wedi dadorchuddio 65 o feinciau coch ledled y DU i ddathlu bywydau'r bobl sydd wedi goroesi clefyd cardiofasgwlaidd, neu sy'n byw gyda'r clefyd.
Stori Hugh Thomas
Aeth ein #RedBenchDiaries i gwrdd â Hugh Thomas, ffarmwr ac aelod o gôr buddugol Britain’s Got Talent 2026, yn ei gartref yn Sir Benfro. Yno, bu’n rhannu ei stori galonogol â ni.
Stori Esme
Cyn hynny, aeth ein #RedBenchDiaries i Senedd Cymru yng Nghaerdydd i rannu stori galonogol Esme, 5 oed, o Abertawe.
‘Cynhesu’r fainc’
Clywodd ein #RedBenchDiaries hefyd gan y bardd lleol, Leigh Manley, sydd hefyd yn un o gleifion y galon. Ef a lansiodd y gyfres â cherdd wreiddiol ar risiau’r Senedd, yn cynnwys pobl o ledled Cymru a dderbyniodd feinciau fel rhan o’r ymgyrch.