Skip to main content

Codi arian yng Nghymru

Mae tua 340,000 o bobl yng Nghymru’n byw gyda chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Eich cefnogaeth chi sy’n gyrru ein gwaith ymchwil a’r gwaith arall a wnawn yng Nghymru. Bydd pob munud o’ch amser a phob rhodd yn helpu i wneud gwahaniaeth i fywydau pobl. 

Mynd ati i godi arian

 

Gallwch chi drefnu gweithgareddau i godi arian at BHF Cymru. Cewch wneud beth bynnag a ddymunwch, yn y ffordd fwyaf hwylus i chi, boed yn ddigwyddiad ar-lein gyda ffrindiau neu'n her awyr agored. Mae ein A-Z of fundraising ideas yn cynnwys llu o syniadau i'ch ysbrydoli. 
Cysylltwch â Rheolwr Codi Arian Cymunedol eich ardal chi i gael cefnogaeth wrth godi arian.

 

 
 

Cymerwch ran

Hanner Marathon Caerdydd yw ras fwyaf Cymru ar hyd heolydd. Mae’n mynd trwy ganol Caerdydd gan ddenu 25,000 o redwyr i'r brifddinas. Rhowch eich enw yma.

Gwirfoddoli

O helpu yn siop leol BHF Cymru i gyfleoedd unigol i wirfoddoli yn eich cymuned, mae yna ffordd i bawb gymryd rhan
Sut bynnag yr hoffech wirfoddoli – yn eich cartref, yn eich cymuned, neu ddefnyddio’ch sgiliau digidol, fe wnawn ni gydweithio â chi i ganfod y cyfle gorau.

Siopau BHF Cymru

Mae gennym 30 o siopau Stryd Fawr a siopau Dodrefn a Nwyddau Trydan ledled Cymru, ac maent yn chwarae rhan enfawr yn ariannu ein hymchwil hanfodol. 
Gallwch eu cefnogi mewn sawl ffordd, o roi'ch amser i wirfoddoli i roi nwyddau nad oes arnoch mo'u hangen.

Grwpiau codi arian

Os hoffech gydweithio â phobl eraill yn eich ardal, byddai'ch grŵp codi arian lleol wrth eu bodd yn clywed oddi wrthych.  Mae ein grwpiau codi arian yn dod â gwirfoddolwyr at ei gilydd i drefnu digwyddiadau lleol difyr, yn cynnwys casgliadau, siarad mewn clybiau lleol, a gweithio ochr yn ochr ag ysgolion a busnesau.

Partneriaid corfforaethol

Rydym bob amser yn awyddus i bartneru â chi a'ch gweithle i'ch helpu i gyrraedd eich nod.  
Gallwn gydweithio i'ch helpu chi i wella llesiant staff, rhoi hyfforddiant CPR a hybu gwaith meithrin timau a chymhelliant; a gallwch chi'n helpu ni i godi arian hanfodol i yrru ein hymchwil sy'n achub bywydau. Mae gennym lawer o syniadau a bydd y tîm ledled Cymru'n cydweithio â chi bob cam o'r ffordd.  
Cysylltwch â ni heddiw ac fe drefnwn alwad i drafod cyfleoedd i weithio mewn partneriaeth.

 

 

English >