
Our research
We have helped improve and save the lives of many people with heart and circulatory diseases. But these conditions still affect millions of families.
Gweld y dudalen hon yn Saesneg
Gallwch lawrlwytho'r adroddiad llawn neu ddarllen crynodeb o'r canfyddiadau ar y dudalen hon.
Yng Nghymru, mae tua 340,000 o bobl yn byw gyda chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed (a elwir hefyd yn glefydau cardiofasgwlaidd neu CVD). Gan fod y boblogaeth yn heneiddio, gallai hyn gynyddu.1 Mae gan filoedd o bobl ffactorau risg ar gyfer y cyflyrau hyn sy'n cynnwys pwysedd gwaed uchel, cholesterol uchel, diabetes math 2 a gordewdra.
Bob blwyddyn, achosir mwy nag un o bob pedair marwolaeth yng Nghymru (27%) gan glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed. Mae hyn yn cyfateb i tua 9,600 o farwolaethau. O'r rheiny, mae tua 2,700 yn bobl o dan 75 oed.2
Mae cysylltiad agos rhwng iechyd cardiofasgwlaidd a ffactorau ehangach sy'n effeithio ar iechyd cyffredinol. Mae'r rhain yn cynnwys:
Ystyr anghydraddoldebau iechyd yw gwahaniaethau sy'n annheg ac y gellir eu hosgoi mewn statws iechyd, gofal iechyd, a risgiau cysyllltiedig ag iechyd rhwng gwahanol grwpiau o'r boblogaeth.3 Yn eu plith mae:
Mae bylchau clir a chyson rhwng y grwpiau mwyaf amddifadus a lleiaf amddifadus ar hyd llwybr clefydau cardiofasgwlaidd yng Nghymru. Mae hyn i'w weld o ran:
Mae nifer o ffactorau risg yn dylanwadu ar iechyd y galon, yn cynnwys smygu, byw gyda gordewdra neu fod dros bwysau, deiet ac yfed alcohol.
Gall mynediad pobl at ofal iechyd a gofal cymdeithasol ac amodau byw pobl ddylanwadu ar gyffredinrwydd y pethau hyn mewn poblogaeth.
Mae tabl hefyd sy'n dangos cyffredinrwydd ffactorau risg CVD yng Nghymru, 2022/23.
Yn ein dadansoddiad, defnyddiwyd dau ddull gwahanol o edrych ar gyffredinrwydd CVD yn ôl amddifadedd yng Nghymru (h.y. pa mor gyffredin yw CVD yn ardaloedd mwyaf amddifadus a lleiaf amddifadus Cymru).
Roedd un o'r dulliau a ddefnyddiwyd gennym yn edrych ar y gyfran o'r bobl oedd wedi hunangofnodi problem â'r galon neu gylchrediad y gwaed yn Arolwg Cenedlaethol Cymru. Yn ôl y dull hwn, roedd 11% o'r bobl yn y grŵp mwyaf amddifadus wedi hunangofnodi anhwylder ar y galon neu gylchrediad y gwaed, o'i gymharu â 9% yn y grŵp lleiaf amddifadus.
Roedd canfyddiad yr ail ddull a ddefnyddiwyd gennym yn hollol wahanol. Yn y dull hwn, rhannwyd practisau meddygon teulu yn bum grŵp, wedi'u seilio ar y gyfran o'u cleifion oedd yn byw yn yr 20% mwyaf amddifadus o ardaloedd Cymru. Yna, edrychwyd ar ganran y cleifion yn y ‘clystyrau’ meddygon teulu hyn a oedd ar gofrestr eu meddyg teulu ar gyfer gwahanol glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed, a chyflyrau risg uchel fel pwysedd gwaed uchel. Roedd y dull hwn yn awgrymu bod CVD ychydig yn fwy cyffredin mewn ardaloedd llai amddifadus.
Mae'r gwahaniaeth yng nghanfyddiadau'r ddau ddull yn ei gwneud yn anodd gwybod beth yw'r gwir gysylltiad rhwng amddifadedd a chyffredinrwydd CVD yng Nghymru. Trafodir rhesymau posibl am y gwahaniaethau yn fwy manwl yn ein hadroddiad llawn. Er mwyn deall y cysylltiad yn well, mae angen rhagor o ymchwil a data cyffredinrwydd wedi'u safoni yn ôl oedran ar gyfer Cymru.
Bu cynnydd mewn derbyniadau cardioleg i ysbytai yng Nghymru o 2020 i 2023, ar bob lefel o amddifadedd. Er mwyn edrych ar y cysylltiad rhwng derbyniadau i ysbytai ac amddifadedd, defnyddiwyd data ar ‘glystyrau’ meddygon teulu – sef grwpiau o bractisau meddygon teulu a bennir gan fyrddau iechyd lleol – a rhoddwyd y rhain yn eu trefn ar sail y gyfran o'u cleifion oedd yn byw yn rhannau mwyaf amddifadus Cymru. Gwelsom mai'r bwrdd iechyd mwyaf amddifadus yng Nghymru oedd â'r gyfradd isaf o dderbyniadau cardioleg.
Buom yn edrych hefyd ar gyfansoddiad y gweithlu meddygon teulu a sut mae amddifadedd yn effeithio arno. Mae hyn yn bwysig gan fod practisau meddygon teulu yn chwarae rhan fawr yn y gwaith o ganfod, diagnosio a rheoli clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed, a’u ffactorau risg.
Yn 2023, roedd mwy o feddygon teulu cyfwerth ag amser llawn (CALl) wedi cymhwyso'n llawn yn ardaloedd mwyaf amddifadus Cymru nag yn yr ardaloedd lleiaf amddifadus, Ond roedd mwy o nyrsys a staff cymorth (gweinyddwyr) CALl yn yr ardaloedd lleiaf amddifadus o'i gymharu â'r ardaloedd mwyaf amddifadus.
Efallai bod mwy o feddygon teulu wedi cymhwyso'n llawn yn yr ardaloedd mwyaf amddifadus oherwydd bod anghenion iechyd yr ardaloedd hyn yn uwch. Ond, gallai'r ffaith fod llai o nyrsys a staff cymorth mewn cymhariaeth amharu ar ansawdd profiad cleifion o ofal iechyd mewn ardaloedd mwy amddifadus.
Roedd cost presgripsiynau CVD yn uwch yn y clwstwr meddygon teulu lleiaf amddifadus hefyd.
Data cyfyngedig sydd gennym am ofal eilaidd ac amddifadedd yng Nghymru. Fodd bynnag, wrth archwilio derbyniadau cardioleg i ysbytai ar lefel byrddau iechyd lleol, gwelsom fod cyfradd derbyniadau cardioleg heb fod yn rhai brys yn is yn y bwrdd iechyd lleol mwyaf amddifadus nad yn yr un lleiaf amddifadus.
Mae cysylltiad cryf rhwng amddifadedd a marwolaethau o CVD, yn achos marwolaethau pob-oed a marwolaethau o dan 75 oed.
Bu gostyngiad yng nghyfraddau marwolaethau pob-oed o CVD yn yr awdurdodau lleol mwyaf amddifadus a lleiaf amddifadus yng Nghymru o 2013/15 hyd at ddechrau pandemig Covid-19 yn 2020. Ers dechrau'r pandemig, mae cyfraddau marwolaethau pob-oed o CVD wedi cynyddu yn ardaloedd mwyaf amddifadus a lleiaf amddifadus Cymru. Yr unig eithriad yw menywod yn yr ardaloedd lleiaf amddifadus – mae eu cyfraddau nhw wedi parhau i ostwng.
Bu gostyngiad yng nghyfraddau marwolaethau o CVD o dan 75 oed yng Nghymru hefyd o 2013/15 hyd at ddechrau pandemig Covid-19. Fodd bynnag, ers hynny, mae cyfraddau marwolaethau cynnar o CVD wedi cynyddu, yn bennaf yn yr awdurdodau lleol mwyaf amddifadus.
Rhwng 2013/15 a 2020/22, gwelsom gynnydd hefyd (o 7 am bob 100,000 o’r boblogaeth), yn y bwlch mewn cyfraddau marwolaethau cynamserol o CVD rhwng yr awdurdodau lleol mwyaf amddifadus a lleiaf amddifadus.
Mae tabl hefyd yn dangos cyfraddau marwolaethau o glefydau'r galon a chylchrediad y gwaed wedi'u safoni yn ôl oedran (ASMR) (pob oed ac o dan 75) yn y pum awdurdod lleol mwyaf amddifadus a'r pump lleiaf amddifadus yng Nghymru, o 2013/15 i 2020/22 [symiau cyfartalog dros dair blynedd]
Mae angen i ni weld:
Amcanestyniadau poblogaeth yn ôl blwyddyn ac oedran (llyw.cymru)
Health Insights - BHF Wales Factsheet Jan 2024 (PDF, 1MB, 18 tudalen)
Seilir y diffiniad hwn o anghydraddoldebau iechyd ar ddiffiniadau tebyg gan wahanol sefydliadau, yn cynnwys: Public Health Scotland, NHS England, The King’s Fund, a Sefydliad Iechyd y Byd