
Eich calon a chi
Rydym yn gweithio’n galed i sicrhau eich bod yn cael digon o gefnogaeth i ofalu am eich calon ac felly rydym wedi cyfieithu tipyn o’n gwybodaeth fwyaf poblogaidd am bwysedd gwaed, CPR a byw yn iach i’r Gymraeg. Galwch draw bob hyn a hyn i weld y tips a’r syniadau newydd y byddwn yn eu hychwanegu dros yr wythnosau nesaf.
Deall ffactorau risg
Cyflyrau neu arferion sy’n eich gwneud yn fwy tebygol o gael clefyd yw ffactorau risg. Y newyddion da yw bod modd rheoli, trin neu addasu llawer o’r ffactorau risg sy’n achosi clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Rydym yn esbonio beth yw’r ffactorau hynny, sut maent yn digwydd a sut y gallant arwain at drawiad ar y galon neu strôc.
Porwch trwy ein llyfrynnau a’u lawrlwytho
Rheoli eich pwysedd gwaed

Mesur eich pwysedd gwaed
Camau syml i ganfod y mesurydd pwysedd gwaed gorau i chi a sut i’w ddefnyddio gartref.

Pam ddylech chi wybod beth yw’ch pwysedd gwaed?
Rydym yn esbonio pam y mae’n bwysig gwybod beth yw’ch pwysedd gwaed a deall ystyr y rhifau.

6 awgrym sut i ostwng eich pwysedd gwaed
Rydym yma i’ch helpu i reoli’ch pwysedd gwaed.

Beth yw pwysedd gwaed uchel?
Gall pwysedd gwaed ymddangos yn gymhleth – rydyn ni’n ei wneud yn syml.

Symptomau pwysedd gwaed uchel a sut i’w drin
Ydych chi’n gwybod beth yw arwyddion pwysedd gwaed uchel? Cewch wybod beth i gadw llygad yn agored amdano a pha driniaethau sydd ar gael.
Dysgwch CPR ac achub bywyd
Os gwelwch rywun yn cael ataliad y galon, mae’n hollbwysig ffonio 999 a dechrau CPR ar unwaith. Gallwch baratoi trwy ddysgu CPR gartref gan ddefnyddio’n fideos hyfforddi.
Rhoi’chenwidderbyn Heart Matters
Rhowch eich enw i dderbyn Heart Matters bob pythefnos ac fe gewch newyddion gan ein harbenigwyr meddygol, ac awgrymiadau ymarferol ar gyfer ffordd iachach o fyw. Mae am ddim a dwy funud mae’n ei gymryd i ymuno.
Beth rydym yn ei wneud yng Nghymru
Mae 340,000 o bobl yng Nghymru’n byw o ddydd i ddydd gyda baich clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed. Cewch wybod beth rydym ni’n ei wneud i helpu.
Dysgwch am ein gwaith