Skip to main content

Cynllun i Gymru ar gyfer Clefydau’r Galon a Chylchrediad y Gwaed

Mae arnom eisiau curo’r torcalon a achosir gan glefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yng Nghymru. Er mwyn gwneud hyn, mae angen i ni wella prosesau canfod, diagnosio a thrin pobl sy’n datblygu anhwylder ar y galon neu gylchrediad y gwaed yn ystod eu hoes, a’r gofal a gânt.

Mae mwy o bobl yn byw yn awr nag yr oedd o'r blaen ar ôl digwyddiadau acíwt ar y galon neu gylchrediad y gwaed. Mae hyn yn gam ymlaen, ond rydym yn dal i wynebu heriau. Mae 340,000 o bobl ledled Cymru’n byw gyda chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed, ac mae’r cyflyrau hyn yn achosi 9,600 o farwolaethau bob blwyddyn.

Mae cynllun Llywodraeth Cymru i sicrhau gwell canlyniadau ar gyfer cleifion ag anhwylderau ar y galon yn dod i ben, ac mae angen cynllun newydd er mwyn sicrhau bod hyn yn dal yn flaenoriaeth.

Bu British Heart Foundation Cymru ar hyd ac ar led Cymru yn gofyn i’r cyhoedd ac i’n cymuned gofal iechyd beth y gall Llywodraeth nesaf Cymru ei wneud i helpu i wella iechyd y galon. Rydym yn lansio cynllun newydd ar gyfer clefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yng Nghymru ac yn gobeithio gweld pob plaid wleidyddol yng Nghymru’n ymrwymo iddo.

Dadllwythwch ein riffiad Maniffesto BHF Cymru

Dadlwythwch ein hadroddiad maniffesto

Y Broses Ymgysylltu

Cynhaliodd BHF Cymru raglen eang i ymgysylltu ag eraill a chasglu tystiolaeth rhwng 2018 a 2020. Er mwyn dod i ddeall yn well sut i oresgyn y problemau a wynebir ym maes gofal am gleifion â chlefydau’r galon a chylchrediad y gwaed yng Nghymru, roeddem yn awyddus i edrych ar syniadau am sut i wella canlyniadau i gleifion, datgelu profiadau clinigol ac ystyried atebion posibl.

Roedd yr ymgysylltu’n cynnwys siarad â chlinigwyr o bob sector a gwahanol weithleoedd yng Nghymru, gan drafod materion fel cyflyrau risg-uchel, gwella mynediad at brofion diagnostig a thriniaethau, ac ailwampio gwasanaethau adsefydlu cardiaidd.

Yn ogystal, buom yn crwydro Cymru gan gynnal dwy sesiwn bord gron yn canolbwyntio ar gleifion ac ymweld ag wyth o Siopau Nwyddau'r Cartref y BHF i glywed gan aelodau'r cyhoedd. Buom yn siarad â chleifion a gofalwyr am eu profiadau personol a chlywsom farn pobl yng Nghymru am yr hyn y gallai Llywodraeth Cymru ei wneud i’w helpu i fyw bywydau iach a hapus.

Fideo animeiddio

Cymerwch gip ar y fideo isod i gael gwybod mwy am ein Cynllun ar gyfer Clefydau'r Galon a Chylchrediad y Gwaed.

Dadlwythwch ein Crynodeb Gweithredol

Lansiad Ar-lein ar 2 Rhagfyr

Cyhoeddwyd canlyniadau llawn y sgyrsiau hyn ar ffurf Cynllun Clefyd y Galon a Chylchrediad y gwaed i Gymru, ac fe’i lansiwyd mewn digwyddiad ar-lein ar 2 Rhagfyr 2020 a fynychwyd gan David Rees MS (Llafur Cymru), Andrew RT Davies MS (Ceidwadwyr Cymru) a Rhun ap Iorwerth MS (Plaid Cymru).

Public volunteers sitting around a wooden desk at a BHF public consultation meeting