Gwynned and Mon Love Hearts Appeal

Croeso i BHF Cymru

Bob blwyddyn, mae clefyd y galon a chylchrediad y gwaed yn lladd dros 11,000 o bobl yng Nghymru. Mae hynny'n golygu bod 30 o bobl yn cael eu cymryd oddi wrth eu teuluoedd bob dydd.

Mae BHF Cymru yn ymroi i achub bywydau trwy roi gwybodaeth bwysig sy'n helpu pobl i ofalu am iechyd eu calon a thrwy gynnig cefnogaeth a gofal i cleifion y galon.

Diolch i'n cefnogwyr a'n gwirfoddolwyr dygn a brwd yng Nghymru, rydym wedi:

  • Buddsoddi bron £5 miliwn mewn gwaith ymchwil arloesol yn Athrofa Ymchwil y Galon Cymru a Phrifysgol Caerdydd.
  • Buddsoddi dros £63,117 mewn cynlluniau Sgiliau Achub Bywyd Brys y llynedd.
  • Gwario dros £140,000 ar offer achub bywyd i'w ddefnyddio mewn ysbytai a chymunedau.
  • Ar hyn o bryd, rydym yn buddsoddi £420,000 i ariannu 38 o Nyrsys Calon arbenigol BHF mewn ysbytai a chymunedau ledled Cymru.

Helpwch ein apeliadau lleol

Rydym yn benderfynol o gael rhagor o nyrsys y galon yng Nghymru ac o sicrhau bod rhagor o gleifion y galon yn cael eu cymorth. Rydym wedi lansio sawl apêl leol i godi arian i gael nyrsys newydd ledled Cymru.

Cymerwch ran yn ein digwyddiadau

Rydym yn cynnal llawer o ddigwyddiadau cyffrous yng Nghymru trwy'r flwyddyn.

Gwirfoddolwch yng Nghymru

Mae gwirfoddoli dros BHF Cymru yn ffordd ardderchog o ddysgu sgiliau newydd, cwrdd â ffrindiau newydd a gwybod eich bod yn gwneud gwir wahaniaeth yn y frwydr yn erbyn clefyd y galon yng Nghymru.

Oes gennych chi gwestiynau?

Cysylltwch â'n staff ni yng Nghymru.

Tudalen Cysylltiadau

Beth bynnag fo’ch ymholiad, mae croeso i chi ffonio a siarad gydag un o’n staff cyfeillgar.

British Heart Foundation Cymru
Blwch SP 50
Caerdydd CF11 1DX
Ffôn: 02920 382368
E-bost: wales@bhf.org.uk

Rheolwraig y Wasg a Materion Cyhoeddus: Delyth Lloyd
Ffôn: 02920 382406
E-bost: lloydd@bhf.org.uk

Rheolwraig Digwyddiadau: Hannah Townsend
Ffôn: 02920 382403
E-bost: westevents@bhf.org.uk

Rheolwyr Gwirfoddoli Codi Arian

De Cymru - Glenda Meakin
Ffôn: 02920 890148
E-bost: meaking@bhf.org.uk

Canolbarth a Gorllewin Cymru - Jayne Lewis
Ffon: 01554 891500
Ebost: lewisja@bhf.org.uk

Gogledd Cymru – Mabon ap Gwynfor
Ffôn: 01341 423839
E-bost: apgwynform@bhf.org.uk

 

Oes gennych chi gwestiynau am y dudalen hon?

CYSYLLTWCH Â NI YMA


Got any questions about this page?

Contact us here